Ynglŷn â’r Awdurdod Safonau Hysbysebu a sut i gwyno

ASH yw’r rheolydd annibynnol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod hysbysebion yn y DU yn gyfreithiol, gweddus, gonest a gwir.

Ymatebwn i gwynion ynglŷn â hysbysebion a’i beirniadu yn erbyn y Codau Hysbysebu - y rheolau mae’n rhaid i bob hysbyseb lynu wrthynt. Gweithredwn yn gyflym ac effeithiol i dynnu’n ôl hysbysebion yr ystyriwn yn gamarweiniol, niweidiol neu sarhaus a’u rhwystro rhag ymddangos eto.

Gall un cwyn i’r ASH arwain at dynnu’n ôl hysbyseb.

Mae’r Codau Hysbysebu yn berthnasol i hysbysebion lle bynnag maent yn ymddangos, gan gynnwys mewn:

  • Newyddiaduron, cylchgronau
  • Posteri
  • Taflenni, pamffledi a chylchlythyrau
  • Post uniongyrchol
  • Negeseuon testun (gan gynnwys MMS, SMS a bluetooth)
  • Teledu a radio
  • Y rhyngrwyd (baneri, hysbysebion naid, feirysau, chwiliad noddedig, cyfathrebiad i farchnata ar wefanau'r cwmniau eu hunain a mannau eraill sydd dan eu rheolaeth e.e. Facebook a Twitter)
  • Sinema

Gwneud cwyn i’r ASH

Mae cwyno i’r ASH yn gyflym, rhad ac am ddim, a hawdd.
Gallwn edrych mewn i’ch cwyn os:

  • y credwch fod hysbyseb yn gamarweiniol, niweidiol neu sarhaus;
  • rydych yn cael trafferth i dderbyn nwyddau neu ad-daliad am eitemau a brynwyd drwy archebu drwy’r post neu drwy sianeli siopa teledu;
  • rydych yn derbyn post nad ydych ei eisiau oddi wrth gwmnïau un ai drwy’r post, e-bost, neges testun neu ffacs, ac
  • mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio heb eich caniatâd.

Gallwch gwyno un ai ar-lein, ar y teleffon, drwy ffacs neu lythyr. Y ffordd gyflymaf yw drwy lenwi ein ffurflen cwynion ar-lein. Yn Saesneg yn unig mae’n ffurflen cwynion ar-lein ar gael, ond os ydych chi eisiau cwyno drwy gyfrwng y Gymraeg ysgrifennwch atom neu e-bostiwch ni os gwelwch yn dda.

Unwaith ein bod wedi derbyn eich cwyn byddwn yn asesu a oes rhesymau dros ymchwilio. Fe’ch hysbyswn o’r camau y penderfynwn eu cymryd.
Os ydych yn aelod o’r cyhoedd, ni ddatgelir eich enw.

Eisiau gwybod mwy amdanom?

Gellir cael gwybodaeth lawn ar ein rôl, cylch gwaith, dyfarniadau a gweithgareddau eraill ar ein gwefan.

Neu gallwch gysylltu gyda ni ar y teleffon, ffacs, post neu ar-lein.

Advertising Standards Authority
Mid City Place
71 High Holborn
Llundain
WC1V 6QT

Ar-lein www.asa.org.uk
Teleffon 020 7492 2222
Ffacs 020 7242 3696
Ffon testun 020 7242 8159
E-bost new.complaints@asa.org.uk

Making a complaint

Find out what types of ads we deal with and how to make a complaint.

How to complain

Adjudications

View our latest weekly ASA adjudications or search for rulings from the last five years.

Adjudications

Non-compliant online advertisers

Check the list of non-compliant online advertisers.

Non-compliant online advertisers

Sign up

Sign up for adjudications alerts and newsletters.

Sign up

Already registered? Log in

Follow Us

For ASA news, including our weekly rulings, press releases, research and reports.
ASA_UK

Advertising Standards Authority Ltd, Mid City Place, 71 High Holborn, London WC1V 6QT  |  Copyright © 2012 ASA